Nod y rhan fwyaf o ofal iechyd yw gwella iechyd cleifion - a'r cleifion eu hunain sydd yn y sefyllfa orau i farnu sut y maent yn teimlo.

Holiaduron y gofynnir i gleifion eu llenwi cyn ac ar ôl triniaethau yw Mesurau Canlyniadau a Adroddwyd gan Gleifion (PROMs) er mwyn asesu sut maent yn teimlo, o'u safbwynt hwy eu hunain.

Mae rhaglen genedlaethol newydd ar gyfer GIG Cymru yn datblygu'r defnydd o PROMs fel y gall cleifion a chlinigwyr wneud gwell penderfyniadau gyda'i gilydd.

Fel rhan o'r rhaglen hon ein nod yw casglu holiaduron gan gleifion ledled Cymru. Fodd bynnag, bydd y gwaith yn datblygu mewn camau, gyda gwahanol fyrddau iechyd ac arbenigeddau yn ymuno ar adegau a chyflymder gwahanol.

Ni fydd pob holiadur yr un fath. Yn dibynnu ar eich cyflwr neu ar ba gam o'r driniaeth yr ydych chi, efallai y gofynnir i chi i lenwi gwahanol holiaduron, neu y gofynnir i chi lenwi'r un holiadur ar adegau gwahanol er mwyn gweld sut mae eich iechyd yn newid.

Caiff yr holiaduron eu defnyddio i'ch cynorthwyo chi a'ch tîm gofal iechyd i benderfynu ar y driniaeth sydd fwyaf addas i'ch anghenion a'ch dymuniadau. Byddwch chi a'ch tîm clinigol yn gallu gweld eich atebion unwaith y byddwch wedi llenwi eich holiadur. Fodd bynnag, efallai na fydd y cyfleuster hwn ar gael bob amser ar gamau cynnar y rhaglen.

Gyda'ch cydsyniad byddem hefyd yn hoffi defnyddio'r holiaduron ar gyfer ymchwil a datblygiad gwasanaeth neu driniaeth - fel y gallwn, gobeithio, ddeall yn well pa mor effeithiol yw triniaethau a chynorthwyo i ddatblygu rhai newydd yn gyflymach. Er mwyn gwneud hyn byddwn yn sicrhau bod pob gwybodaeth y gellir ei defnyddio i'ch adnabod (er enghraifft eich blwyddyn geni, eich rhif ysbyty ac ati) yn cael ei dileu fel bod pob ateb yn ddienw.

O ddiwedd 2016 gofynnir i rai cleifion lenwi'r holiadur yn eu cartref eu hunain drwy fewngofnodi i wefan a defnyddio cod ID wedi'i bersonoli a fydd i'w weld ar eu llythyr cydnabod atgyfeiriad i'r ysbyty.

Gobeithiwn allu cynnig y dewis hwn i nifer cynyddol o gleifion. Yn y cyfamser gofynnir hefyd i rai cleifion lenwi holiaduron mewn clinigau gan ddefnyddio iPadiau dynodedig a gyda chymorth staff gofal iechyd pe bai angen.

Os gofynnwyd i chi lenwi holiadur PROMs a'ch bod am gael gwybod mwy, cliciwch yma i ddarllen rhai cwestiynau cyffredin.

Os ydych am ofyn cwestiynau ynglŷn â'ch apwyntiad neu driniaeth, defnyddiwch y manylion cyswllt sydd yn eich llythyr atgyfeirio.