Preifatrwydd

Diben

Mae'r datganiad hwn yn berthnasol i'r holl wybodaeth a gesglir neu a gyflwynir ar y wefan nhs.wales. Mae'n cynnwys manylion am y wybodaeth rydym ni'n ei chasglu, sut rydym ni'n ei chasglu a pham rydym ni'n ei chasglu.

Fel y disgrifir yn narpariaethau Deddf Diogelu Data 1998 y Deyrnas Unedig, rydym ni'n cymryd camau priodol i gynnal diogelwch eich data ar ein gwefan. Mae'r wybodaeth a gesglir yn cael ei rheoli gan y datganiad preifatrwydd hwn ac mae defnyddio'r wefan hon yn dangos eich bod chi'n cytuno.

Y Wybodaeth Rydym Ni'n ei Chasglu

Gwybodaeth Bersonol

WNid ydym yn casglu gwybodaeth bersonol am ddefnyddwyr y safle. Pan fyddwch chi'n cyflwyno data o'ch gwirfodd ar y wefan hon y gellir eich adnabod ohono (mae hyn yn cynnwys cyflwyno ffurflenni adborth, tanysgrifiadau neu holiaduron), defnyddir y wybodaeth a gyflwynir i ymateb i'ch ymholiadau ac at y diben a fwriadwyd yn unig. Nid ydym yn rhannu gwybodaeth am ddefnyddwyr y we â thrydydd partion.

Olrhain Defnyddwyr

Rydym ni'n monitro gweithgarwch defnyddwyr er mwyn gwella'r cynnwys a ddarperir ar y safle. Gwasanaeth rhad ac am ddim yw Google Analytics a ddarperir gan Google sy'n cynhyrchu ystadegau manwl am yr ymwelwyr â gwefan.

Mae'r wybodaeth a gesglir yn cynnwys tudalennau gwe cyfeirio / gadael, patrymau clicio, y tudalennau gwe yr ymwelir â hwy fwyaf / lleiaf, hyd y sesiwn, nifer yr ymwelwyr, math o borwr, system weithredu, ac ati. Cesglir y wybodaeth gan ddefnyddio cwcis.

Sut Rydym Ni'n Casglu Gwybodaeth

Google Analytics

Mae'r wefan hon yn defnyddio Google Analytics, sef gwasanaeth dadansoddi'r we a ddarperir gan Google Inc. ('Google'). Mae Google Analytics yn defnyddio 'cwcis' a chod JavaScript i helpu i ddadansoddi gweithgarwch defnyddwyr ar wefannau. Bydd y wybodaeth a gynhyrchir am eich defnydd o'r wefan (gan gynnwys eich cyfeiriad IP) yn cael ei throsglwyddo i weinyddion Google yn yr Unol Daleithiau a'i storio yno.

Bydd Google yn defnyddio'r wybodaeth hon i gynhyrchu adroddiadau ar weithgarwch defnyddwyr ar gyfer y wefan hon. Gallai Google hefyd drosglwyddo'r wybodaeth hon i drydydd partion lle mae'n ofynnol iddo wneud hynny yn ôl y gyfraith, neu lle mae'r cyfryw drydydd partion yn prosesu'r wybodaeth ar ran Google.

Ni fydd Google yn cysylltu eich cyfeiriad IP ag unrhyw ddata arall a ddaliwyd yn flaenorol. Cewch wrthod defnyddio cwcis trwy ddewis y gosodiadau priodol ar eich porwr. Sylwer, os caiff cwcis eu diffodd, mae'n bosibl na fyddwch yn gallu manteisio ar ddefnyddioldeb llawn y wefan hon. Trwy ddefnyddio'r wefan hon, rydych yn caniatáu i Google brosesu data amdanoch yn y modd ac at y dibenion a amlinellir uchod.

Darllenwch Bolisi Preifatrwydd Llawn a Thelerau Gwasanaeth Google i gael gwybodaeth fanwl.

Beth yw Cwcis?

Ffeiliau bach yw cwcis y mae gwefannau'n eu rhoi ar yriant disg caled eich cyfrifiadur pan fyddwch chi'n ymweld. Mae cwcis yn trosglwyddo gwybodaeth yn ôl i wefannau bob tro y byddwch chi'n ymweld â hwy. Fe'u defnyddir i adnabod porwyr gwe, olrhain tueddiadau defnyddwyr a storio gwybodaeth am ddewisiadau defnyddwyr. Gallwch gyfyngu / diffodd cwcis ar eich porwr; sylwer efallai na fydd rhai nodweddion gwefan yn gweithio'n iawn heb gwcis

Sut i Ddiffodd Cwcis

I newid eich gosodiadau cwcis:
  • Internet Explorer: Ewch i 'Tools' ar y bar dewislenni > Dewiswch 'Internet Options' > Dewiswch 'Privacy' > 'Disable / restrict cookies'
  • Firefox: Ewch i 'Tools' ar y bar dewislenni > Dewiswch 'Options' > Dewiswch 'Privacy' > 'Disable / restrict cookies
  • Opera: Ewch i 'Tools' ar y bar dewislenni > Dewiswch 'Preferences' > Dewiswch 'Privacy / Advanced' > 'Disable / restrict cookies'
* Sylwer y gallai'r gosodiadau uchod fod yn wahanol gan ddibynnu ar ba fersiwn o'r porwr sydd gennych chi.

Pam Rydym Ni'n Casglu Ystadegau Defnyddwyr

Trwy ddeall ymddygiad a dewisiadau defnyddwyr, gallwn wella cynnwys ein gwefan i fodloni disgwyliadau ac anghenion defnyddwyr.

Gwefannau Allanol

Nid yw'r datganiad preifatrwydd hwn yn gymwys i ddolenni allanol; mae casglu gwybodaeth gan safleoedd o'r fath yn ddarostyngedig i bolisiau preifatrwydd perthnasol. Nid ydym yn gyfrifol nac yn atebol am arferion preifatrwydd gwefannau allanol ac rydych chi'n defnyddio'r cyfryw wefannau yn ôl eich doethineb.