Cwestiynau Cyffredin

Beth yw PROMs?

Ffordd systematig i chi ddweud wrthym ni am eich gofal, eich profiad a statws eich iechyd yw Mesurau Canlyniadau a Adroddir gan Gleifion (PROMs). Maent yn ein cynorthwyo i fonitro eich cynnydd a rhoi tystiolaeth gref ynglŷn ag effeithiolrwydd gofal a thriniaeth. Gellir hefyd eu defnyddio ar gyfer y canlynol:

  1. Eich cynorthwyo chi a'ch tîm clinigol i benderfynu pa ofal sydd orau ar eich cyfer;
  2. Cymharu perfformiad ar draws ysbytai a byrddau iechyd;
  3. Ein cynorthwyo ni i gynllunio datblygiadau gwasanaeth yn y dyfodol.

Pam eu bod yn cael eu cyflwyno nawr?

Rhan o raglen genedlaethol ledled Cymru yw hon sy'n defnyddio technoleg i helpu i wella iechyd a lles pobl Cymru. Mae'n cyd-fynd â strategaeth Llywodraeth Cymru ar Ofal Iechyd Darbodus ac Iechyd a Gofal Gwybodus.

Sut fyddant yn gweithio?

Dros amser, gwahoddir pob claf yng Nghymru i lenwi holiaduron ar-lein ynglŷn â'u hiechyd, ond am nawr rydym yn cymhwyso'r rhaglen hon mewn camau.

Mae rhai Byrddau Iechyd eisoes wedi dechrau casglu PROMs gydag eraill yn gobeithio gwneud hynny yn y dyfodol agos. Os hoffech wybod a yw eich Bwrdd Iechyd chi wedi dechrau casglu PROMs, parhewch i wirio'r wefan hon i weld y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd ar gyfer pob Bwrdd Iechyd.

Os gwahoddir chi i gymryd rhan byddwn yn gofyn i chi lenwi holiadur syml ar wahanol gamau o'ch triniaeth. Byddwch yn derbyn llythyr gan y Bwrdd Iechyd yn fuan wedi i chi gael eich atgyfeirio gan eich meddyg teulu. Bydd y llythyr hwn yn cadarnhau bod eich atgyfeiriad wedi ei dderbyn gan y Bwrdd Iechyd a bydd yn cynnwys cyfeiriad gwefan er mwyn i chi gael mynediad at holiadur PROMs. Bydd y llythyr hefyd yn cynnwys rhif cyfeirnod unigryw y bydd angen i chi ei roi yn y blwch perthnasol ar dudalen gyntaf y wefan.

Gall rhai Byrddau Iechyd ddewis casglu PROMs yn ystod eich apwyntiad clinig. Mewn achosion o'r fath bydd rhywun yn trafod hyn gyda chi yn ystod eich ymweliad â'r ysbyty.

Beth os nad oes gennyf fynediad i'r rhyngrwyd?

Os na allwch lenwi'r holiadur oherwydd nad oes gennych fynediad i'r rhyngrwyd, ystyriwch y canlynol:

  1. A oes gan aelod o'ch teulu, ffrind neu gymydog fynediad i'r rhyngrwyd, ac a fyddent yn barod i chi ei ddefnyddio i lenwi'r holiadur?
  2. A oes llyfrgell gyhoeddus leol y gallech ei defnyddio i lenwi'r holiadur?
  3. A oes unrhyw le arall yn lleol sydd â mynediad i'r rhyngrwyd y gallech ei ddefnyddio i lenwi'r holiadur, e.e. grŵp cefnogi neu gaffi rhyngrwyd?

Os ydych chi'n dal yn methu cael mynediad i'r rhyngrwyd er mwyn llenwi'r holiadur gallwn eich sicrhau na fydd hyn yn oedi eich apwyntiad nac yn effeithio ar y gofal y byddwch yn ei dderbyn.

Beth os na allaf ateb yr holiadur fy hun?

Weithiau efallai na fydd rhai cleifion yn gallu llenwi'r holiadur eu hunain. Gallai hyn fod am nifer o resymau ond byddai'r rhaglen yn hoffi i bob claf gael ei gynnwys ac felly mae'n rhaid i ni ymdrechu i gefnogi unrhyw un sy'n methu â llenwi'r holiadur.

Os na allwch lenwi'r holiadur, ystyriwch y canlynol:

  1. A oes gennych aelod o'r teulu, ffrind, gofalwr neu gymydog a fyddai'n gallu eich helpu i lenwi'r holiadur?
  2. A ydych chi'n aelod o unrhyw grwpiau cefnogi, neu a oes gennych fynediad at un, lle gallai rhywun yn y grŵp hwnnw eich helpu i lenwi'r holiadur?

Os oes rhywun a fydd yn gallu eich helpu i lenwi'r holiadur, cofiwch mai eich gwybodaeth a'ch barn chi ac nid y person sy'n eich helpu y dylid eu darparu.

Os ydych chi wedi ystyried yr uchod am yn dal yn methu llenwi'r holiadur, gallwn eich sicrhau na fydd hyn yn oedi eich apwyntiad nac yn effeithio ar y gofal y byddwch yn ei dderbyn.

Beth sy'n digwydd os byddaf yn dewis peidio â chymryd rhan?

Nid yw holiaduron PROMs yn orfodol ac os byddwch yn dewis peidio â chymryd rhan ni fydd hyn yn effeithio ar eich amser aros na'r gofal y byddwch yn ei dderbyn.

Efallai y gofynnir i chi lenwi'r holiadur eto unwaith y byddwch yn mynychu eich apwyntiad claf allanol ond bydd hyn yn dibynnu ar yr arbenigedd a'r clinig ac mae llenwi'r holiadur yn wirfoddol. Fodd bynnag, credwn yn gryf bod y wybodaeth a gesglir yn bwysig ac rydym yn argymell bod pob claf yn cymryd rhan, lle bo hynny'n bosibl.

A fyddaf i'n gallu llenwi'r holiadur yn ystod fy ymweliad â'r ysbyty os na allaf ei lenwi adref?

Ar y cam hwn ni fydd darpariaeth i gleifion lenwi'r holiadur mewn lleoliad ysbyty. Fodd bynnag, yn y dyfodol efallai y cynigir darpariaeth, mewn rhai arbenigeddau, i holiaduron PROMs gael eu casglu yn y clinig os nad yw cleifion, am ba bynnag reswm, yn gallu eu llenwi adref.

Os yw'r clinig a'r arbenigedd yn gallu cynnig cyfleuster i chi lenwi'r holiadur yn ystod eich ymweliad â'r ysbyty, mae'n bwysig y rhoddir y cyfle i chi ei lenwi heb fod staff yn eich gwylio. Fodd bynnag, efallai y bydd angen i aelod staff ddangos i chi, aelod o'ch teulu neu ffrind sut i ddefnyddio'r ddyfais llaw, ac ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych. Bydd angen i staff hefyd wneud yn siŵr bod yr holiadur cywir wedi ei lanlwytho ar y ddyfais er mwyn i chi ei lenwi. Os byddwch angen cymorth, dylai staff allu egluro i chi sut i lenwi'r holiadur.

Mae sut rwy'n teimlo a fy iechyd yn newid trwy'r amser, sut allaf i lenwi'r holiadur?

Gwyddom fod llawer o gyflyrau yn gwneud statws eich iechyd yn gyfnewidiol iawn a gall sut yr ydych yn teimlo nawr fod yn wahanol iawn i sut yr oeddech yn teimlo ddoe a sut y byddwch yn teimlo ymhen ychydig oriau, yn arbennig os ydych yn cymryd meddyginiaethau i'ch helpu i'w reoli (megis lladdwyr poen).

Bwriad yr holiaduron yw rhoi ciplun i ni o'ch iechyd, a gwyddom eu bod ond yn rhoi golwg gyfyngedig iawn i ni o sut yr ydych chi'n teimlo heddiw, ond mae'n bwysig eich bod chi'n eu llenwi gan feddwl am sut yr ydych yn teimlo ar adeg llenwi'r holiadur.

Felly, os ydych, pan fyddwch yn llenwi'r holiadur, yn rheoli eich poen gyda meddyginiaeth, ymatebwch o safbwynt sut yr ydych yn teimlo ar hyn o bryd, nid sut y byddech chi'n teimlo pe na fyddech wedi cymryd eich meddyginiaeth.

I bwy y gofynnir iddynt gymryd rhan?

Ar hyn o bryd, mae'r holiaduron a ddefnyddir yn fwyaf addas ar gyfer oedolion (dros 18 oed) ac felly ni ddylid gofyn i unrhyw un iau na'r oedran hwn lenwi un. Wrth i'r rhaglen fynd rhagddi ychwanegir mwy o holiaduron gan ganiatáu i fwy o grwpiau oedran gymryd rhan yn y rhaglen.

Os byddwch yn derbyn gwahoddiad i lenwi holiadur a'ch bod dan 18 oed nid oes angen i chi ei lenwi.

A fydd gofyn i mi gydsynio i unrhyw beth?

Bydd, gofynnir i chi a ydych yn cydsynio i'ch gwybodaeth gael ei rhannu gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n gysylltiedig yn eich gofal, ac i'ch ymatebion gael eu cysylltu i gronfeydd data eraill y GIG neu eu defnyddio ar gyfer gwella gwasanaeth, cynllunio a dibenion ymchwil.

Sut caiff y canlyniadau eu hadrodd yn ôl i mi a'm clinigwr?

Unwaith y byddwch yn cyflwyno eich holiadur ni fyddwch yn gallu ei gadw na'i argraffu, fodd bynnag bydd eich ymatebion ar gael ar unwaith i'ch clinigwr.

Gallwch ofyn am adborth yn ystod eich apwyntiad claf allanol, ond bydd adborth yn ddibynnol ar staff yn cyrchu'r wybodaeth ar adeg eich apwyntiad claf allanol, ac efallai na fydd hyn bob amser yn bosibl yn dibynnu ar y clinig yr ydych yn ei fynychu.

Wrth i'r rhaglen dyfu a dod yn rhywbeth arferol bydd hyn yn newid a bydd cleifion yn gallu cael adborth a gweld eu holiaduron ar ôl eu cyflwyno.

Sut bydd yr holiaduron yn cael eu defnyddio?

Defnyddir eich ymatebion i gyfrifo sgôr ansawdd bywyd, y gellir ei ddefnyddio i fonitro newidiadau mewn symptomau a'ch ansawdd bywyd.

Gall yr ymatebion eich cynorthwyo chi a'ch tîm clinigol i wneud penderfyniad gwybodus ynglŷn â pha driniaeth sydd fwyaf addas ar gyfer eich cyflwr, eich anghenion a'ch amgylchiadau.

Fodd bynnag gall y data a gesglir, unwaith y bydd wedi'i ychwanegu at ddata cleifion eraill, gynorthwyo byrddau iechyd a thimau clinigol i wella gwasanaethau a chynllunio ar gyfer anghenion y dyfodol, a dros amser gellir hefyd ei ddefnyddio i feincnodi ar draws sefydliadau.

Yn ogystal, unwaith y bydd gwybodaeth y gellir ei defnyddio i adnabod claf (megis, enw, cyfeiriad, rhif GIG, blwyddyn geni ac ati) wedi ei thynnu a bod ymatebion gan gleifion yn cael eu rhoi at ei gilydd i greu 'set data', gellir defnyddio'r set data hwn mewn ymchwil ac i wella datblygiad triniaeth.

A rennir y wybodaeth gyda sefydliadau allanol?

Ni chaiff ymatebion holiaduron unigol eu rhannu y tu allan i GIG Cymru. Fodd bynnag bydd y Rhaglen Genedlaethol a'r Byrddau Iechyd, gydag amser, yn gallu defnyddio'r data ar gyfer ymchwil ac i wella datblygiad triniaethau. Gall hyn olygu rhannu data gyda sefydliadau nad sy'n rhai GIG Cymru. Bydd unrhyw wybodaeth a rennir gyda sefydliadau nad sy'n rhai GIG Cymru yn y dyfodol yn cael ei rheoli'n dynn ac ni fydd gwybodaeth y gellir adnabod cleifion drwyddi, h.y. enw, cyfeiriad, dyddiad geni, rhif GIG ac ati byth yn cael ei roi ar gael.

Mae'r Rhaglen yn ystyried opsiynau, risgiau a manteision dull o'r fath. Ar hyn o bryd mae rhannu data yn fater i bob sefydliad GIG Cymru unigol i'w gytuno a'i reoli yn lleol.

Noder: Gan fod hon yn rhaglen newydd mae'r wefan yn dal i gael ei datblygu ond caiff mwy o wybodaeth ei llwytho iddi yn rheolaidd.