Telerau Defnyddio
Defnydd a Ganiateir
Rhoddir caniatâd i ymwelwyr â'r wefan hon gael mynediad at yr holl ddeunydd cyhoeddedig ar y safle, y gellir ei atgynhyrchu'n rhad ac am ddim mewn unrhywfformat neu gyfrwng cyn belled ag y caiff ei atgynhyrchu'n gywir, nad yw'n cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol ac nad yw'n cael ei atgynhyrchu er budd masnachol, ailddosbarthu masnachol, na defnydd masnachol gan drydydd parti.Cewch lawrlwytho'r deunydd sy'n ymddangos ar y wefan hon i gyfrwng storio electronig, magnetig, optegol neu debyg neu i argraffydd at ddiben ymchwil nad yw'n fasnachol, astudio preifat neu ddefnydd mewnol yn unig.
Lle mae unrhyw un o'r eitemau hawlfraint ar y safle hwn yn cael eu hailgyhoeddi neu eu copio, mae'n rhaid amlygu ffynhonnell y deunydd a chydnabod y statws hawlfraint. Nid yw'r caniatâd i atgynhyrchu deunydd a warchodir trwy hawlfraint yn ymestyn i unrhyw ddeunydd ar y safle hwn, yr amlygir ei fod yn hawlfraint trydydd parti. Mae'n rhaid cael caniatâd gan y deiliaid hawlfraint dan sylw i atgynhyrchu'r cyfryw ddeunydd.
Gwybodaeth Bersonol
Ni fydd unrhyw wybodaeth bersonol (e.e. codau post) a roddwch ar y safle hwn yn cael ei chasglu, ei dal a'i defnyddio at unrhyw ddiben heblaw fel y disgrifiwyd.Nid ydym yn rhannu'r wybodaeth a ddarparwch ag unrhyw drydydd partion ac rydym yn ei diogelu yn unol â Deddf Diogelu Data 1998.
Diogelu rhag Feirysau
Rydym ni'n gwneud pob ymdrech i wirio a phrofi deunydd ar gyfer feirysau. Fodd bynnag, argymhellir eich bod chi'n gwirio'r holl ddeunydd sy'n cael ei lawrlwytho o'r Rhyngrwyd gyda rhaglen wrthfeirws. Ni allwn dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled, amhariad neu ddifrod i'ch data neu'ch system gyfrifiadurol a allai ddigwydd wrth ddefnyddio deunydd a ddeilliwyd o'r wefan hon.Ymwadiad
Cymerir gofal i sicrhau bod cynnwys y wefan yn gywir. Er hynny, darperir y cynnwys hwn er gwybodaeth gyffredinol yn unig, ac rydych chi'n ei defnyddio ar eich menter eich hun. Ni fydd GIG Cymru yn cael ei ddal yn atebol am unrhyw ddifrod neu golled sy'n deillio o unrhyw weithred neu anweithred yn seiliedig ar ddefnyddio'r wybodaeth ar y wefan.Gwefannau Allanol
Nid yw GIG Cymru yn gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd unrhyw wefan y darperir dolen iddi.Ni ddylai rhestru gael ei ystyried yn gymeradwyaeth o unrhyw fath ac nid yw GIG Cymru yn derbyn unrhyw atebolrwydd mewn perthynas â'r cynnwys na chanlyniadau dilyn unrhyw gyngor a gynhwysir ar y cyfryw safleoedd.
Ni allwn warantu y bydd y dolenni hyn yn gweithio drwy'r amser ac nid oes gennym unrhyw reolaeth dros argaeledd y tudalennau y ceir dolenni iddynt na newid i gyfeiriad y safle.
Mae GIG Cymru yn cadw'r hawl i wrthod neu ddileu dolenni i unrhyw wefan os canfyddwn fod y cynnwys yn amhriodol.