Rhyddid Gwybodaeth

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn darparu ffordd o hyrwyddo tryloywder ac atebolrwydd. O dan y Ddeddf, mae gan bobl yr hawl i ofyn am gael gweld gwybodaeth a ddelir gan gyrff cyhoeddus, gan gynnwys y rhai hynny sy'n darparu gwasanaethau'r GIG yng Nghymru.

Yr hyn y mae'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn ei fynnu

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn mynnu:

  • Bod gwybodaeth yn cael ei darparu fel mater o drefn trwy gynllun cyhoeddi.
  • Bod canllaw i'r wybodaeth hon yn cael ei darparu.
  • Bod ceisiadau am wybodaeth yn derbyn ymateb yn briodol.

Cynlluniau Cyhoeddi

Mae'n ofynnol i bob Bwrdd Iechyd ac Ymddiriedolaeth GIG Cymru, ynghyd â'r meddygon teulu, y deintyddion, y fferyllwyr a'r optegwyr sy'n darparu gwasanaethau'r GIG, ddarparu cynllun cyhoeddi yn unigol o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Mae'r rhain yn rhoi gwybod i'r cyhoedd sut a phryd y bydd gwybodaeth ar gael.

Gwneud Cais am Wybodaeth

Mae'n rhaid i'ch cais fod yn ysgrifenedig a gellir ei anfon drwy'r post neu drwy neges e-bost. Mae'n rhaid i'ch cais gynnwys:

  • eich enw go iawn - nid oes rhaid i ni ymateb i geisiadau a gyflwynir o dan ffugenw;
  • eich cyfeiriad (mae cyfeiriadau e-bost yn dderbyniol);
  • disgrifiad o'r wybodaeth yr hoffech ei chael; ac
  • unrhyw flaenoriaethau o ran pa fformat yr hoffech dderbyn y wybodaeth ynddo e.e. yn electronig neu ar ffurf copi caled.

Mae'n rhaid i chi dderbyn ymateb i'ch cais rhyddid gwybodaeth ac, yn gyffredinol, mae'n rhaid i hyn fod o fewn 20 niwrnod gwaith ar ôl i'r cais gael ei dderbyn.

Yn gyffredinol, mae'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn darparu bod gan unigolyn

  • Yr hawl i gael gwybod p'un a yw'r wybodaeth yn bodoli
  • Yr hawl i dderbyn y wybodaeth (oni bai bod eithriad yn berthnasol)

Gwneud cais am eich gwybodaeth eich hun

Os ydych eisiau gweld eich data personol eich hun, dylech gyflwyno cais gwrthrych am wybodaeth o dan Ddeddf Diogelu Data 1998, ac nid o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Rhyddid Gwybodaeth - Cwestiynau Cyffredin