Polisi Dolenni


Dolenni o GIG Cymru

Caiff yr holl ddolenni o proms.gig.cymru eu dethol i fodloni nodau ac amcanion y wefan.

Nod y wefan yw darparu mynediad i bobl Cymru at wybodaeth gan GIG Cymru a'i sefydliadau partner, a hysbysu ynghylch iechyd poblogaeth Cymru a'r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a ddarperir gan, neu ar ran, GIG Cymru.

Mae amcanion y wefan yn cynnwys:

  • Darparu un pwynt mynediad at ddolenni ar gyfer pawb sy'n chwilio am wybodaeth am iechyd poblogaeth Cymru a GIG Cymru
  • Hyrwyddo a darparu mynediad hawdd, dibynadwy at adnoddau a ddarperir gan sefydliadau GIG Cymru
  • Hyrwyddo dealltwriaeth y cyhoedd a chleifion o'r GIG yng Nghymru
  • Amlygu cyfleoedd ar gyfer ymglymiad y cyhoedd a chleifion yn y GIG yng Nghymru
  • Darparu gwybodaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg, a chyfeirio at adnoddau Cymraeg
  • Osgoi dyblygu gwefannau eraill trwy weithio gyda, a chroesgysylltu â, gwefannau cenedlaethol a lleol cysylltiedig
  • Bod yn ymatebol i anghenion defnyddwyr

Mae dosbarthiadau dolenni ar GIG Cymru yn cynnwys:

  • Dolenni i sefydliadau GIG Cymru
  • Dolenni Llywodraeth Cymru
  • Dolenni i sefydliadau eraill y GIG (heb fod yng Nghymru)
  • Dolenni i sefydliadau eraill y sector cyhoeddus
  • Dolenni i sefydliadau'r trydydd sector sy'n darparu gwasanaethau ar ran GIG Cymru
Nid yw GIG Cymru yn cysylltu'n rheolaidd â gwefannau sy'n darparu gwybodaeth am wasanaethau nad ydynt yn rhan o'r GIG.

Cysylltu â GIG Cymru

Rydym yn croesawu sefydliadau ac unigolion yn creu dolenni i'n hafan a thudalennau unigol yn ein gwefan, heb ofyn ein caniatâd i wneud hynny. Fodd bynnag, gofynnwn i'r rheiny sy'n creu dolen i'n gwefan barchu'r amodau canlynol:
  • Ni ddylid defnyddio dolenni mewn cyd-destun difenwol
  • Dylai'r rheiny sy'n creu dolenni dwfn fod yn ymwybodol bod URL tudalennau penodol yn destun newid heb rybudd
  • Ac eithrio sefydliadau'r GIG, ni cheir copio a defnyddio logo GIG Cymru i greu dolenni
  • Nid ydym yn 'masnachu' dolenni - os byddwch yn dewis creu dolen i'n gwefan ni, ni fyddwn yn cynnig creu dolen i'ch gwefan chi.