Hygyrchedd

Mae GIG Cymru wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i https://proms-cy.nhs.wales

Statws cydymffurfio

Nid yw'r wefan hon yn cydymffurfio ag Web Content Accessibility Guidelines (WCAG) 2.1 AA. Rhestrir yr elfennau nad ydynt yn cydymffurfio isod.

Cynnwys nad yw'n hygyrch

Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch ac felly nid yw'n cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd am y rheswm (rhesymau) canlynol:

Rydym yn gwybod nad yw rhai elfennau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch. Er enghraifft:

  • ni fydd rhywfaint o destun yn ail-lenwi mewn un golofn pan fyddwch chi'n newid maint ffenestr y porwr
  • nid oes modd addasu uchder llinell na bylchau ambell destun
  • mae llawer o ddogfennau ar ffurf PDF ac nid ydynt yn hygyrch
  • efallai na fydd capsiynau, trawsgrifiadau, arwyddo na sain ddisgrifio ar y cynnwys sain/fideo
  • mae'n anodd pori trwy rai o'r ffurflenni gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • nid yw rhai tudalennau na dogfennau sydd wedi'u hatodi wedi'u hysgrifennu'n glir
  • nid oes penawdau i'r rhesi mewn llawer o dablau
  • nid oes cyferbynnedd lliw da i rai tudalennau
  • nid yw rhai penawdau yn gyson
  • nid oes gan rai delweddau unrhyw destun amgen
  • nid yw rhai botymau wedi'u nodi'n gywir
  • nid yw rhai negeseuon gwall wedi'u cysylltu'n glir â rheolaethau ffurflenni
  • ni ellir newid elfennau o'r dyluniad gyda gosodiadau personol ar gyfer lliwiau, ffontiau, ac ati
  • nid yw'r dyluniad yn addasu'n effeithiol i newidiadau ym maint y ffenestr neu lefel y chwyddo
  • mae rhannau sy'n anodd neu'n amhosibl eu deall neu eu defnyddio gyda rhaglen darllen sgrin
  • mae rhannau sy'n anodd neu'n amhosibl eu cyrraedd neu eu defnyddio heb lygoden neu drwy gyffwrdd â'r sgrin
  • efallai na fydd rhywfaint o'r testun wedi'i ysgrifennu mewn Saesneg clir
  • efallai na fydd teitlau rhai tudalennau na labeli ffurflenni yn unigryw
  • nid yw'r testun ar gyfer rhai dolenni cyswllt yn disgrifio ei ddiben

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 23 Ebrill 2022.

Adolygwyd y datganiad ddiwethaf ar 23 Ebrill 2022.

Gweithdrefn orfodi

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018. Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Equality Advisory and Support Service (EASS).