Rhyddid Gwybodaeth - Cwestiynau Cyffredin


Pwy sy'n gallu gofyn am wybodaeth?

Gall unrhyw un, yn unrhyw le yn y byd, wneud cais rhyddid gwybodaeth.


Beth alla' i ofyn amdano?

Gallwch geisio unrhyw wybodaeth gofnodedig rydych chi'n credu y gallai corff cyhoeddus ei dal. Os yw'r cais ar gyfer gwybodaeth amgylcheddol, byddwn yn ymateb yn unol â Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004.


A oes angen i mi ddyfynnu'r Ddeddf?

Er y gallai fod yn ddefnyddiol gwneud hynny, nid oes angen i chi ddyfynnu'r Ddeddf.


A alla' i ofyn am wybodaeth amdanaf i?

Gallwch, ond ydych chi eisiau gweld eich data personol eich hun, gallwch gyflwyno cais gwrthrych am wybodaeth o dan Ddeddf Diogelu Data 1998, ac nid oes angen i chi ddefnyddio'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth..


Sut ydw i'n gofyn am wybodaeth?

Mae'n rhaid i'ch cais fod yn ysgrifenedig a gellir ei anfon drwy'r post neu drwy neges e-bost at yr awdurdod cyhoeddus perthnasol.


Pa wybodaeth y mae'n rhaid i mi ei chynnwys yn fy nghais?

Mae'r Ddeddf yn mynnu bod gwybodaeth benodol yn cael ei chyflenwi cyn y gall awdurdod cyhoeddus ymateb i'ch cais:

  • eich enw go iawn - nid oes rhaid i ni ymateb i geisiadau a gyflwynir o dan ffugenw;
  • eich cyfeiriad (mae cyfeiriadau e-bost yn dderbyniol);
  • disgrifiad o'r wybodaeth yr hoffech ei chael; ac
  • unrhyw flaenoriaethau o ran pa fformat yr hoffech dderbyn y wybodaeth ynddo e.e. yn electronig neu ar ffurf copi caled.


Sut y dylwn i eirio fy nghais?

Mae arweiniad cynhwysfawr ar gyflwyno ceisiadau effeithiol am wybodaeth ar gael gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.


Ysgrifennu cais cynhwysfawr

  • Nodwch yn glir pa wybodaeth rydych chi ei heisiau, gan gynnwys unrhyw ddyddiadau neu raddfeydd amser. Os nad yw'n glir beth rydych chi'n gofyn amdano, mae'n bosibl y bydd angen i ni geisio eglurhad pellach;
  • Byddwch mor benodol â phosibl. Os yw'ch cais yn rhy gyffredinol, fe allai gael ei wrthod ar y sail y byddai ymateb yn costio mwy na'r terfyn a bennwyd yn y Rheoliadau Ffioedd, sy'n cyfateb i un unigolyn yn gweithio am dri diwrnod a hanner. Os bydd hyn yn digwydd, byddwn yn gofyn i chi ailgyflwyno cais culach a mwy penodol y gellid ei fodloni o fewn y terfynau cost, a byddwn yn rhoi cyngor a chymorth i chi wneud hynny;
  • Defnyddiwch iaith syml, gwrtais.


Beth fydd yn digwydd pan dderbynnir fy nghais?

Bydd pob Bwrdd Iechyd ac Ymddiriedolaeth GIG Cymru, ynghyd â'r meddygon teulu, y deintyddion, y fferyllwyr a'r optegwyr sy'n darparu gwasanaethau'r GIG, wedi sefydlu gweithdrefn i ymateb i geisiadau, ac i benderfynu pa un a ddylai'r wybodaeth y gofynnwyd amdani gael ei rhyddhau, neu ba un a allai unrhyw eithriadau fod yn berthnasol i'r cais.

Yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid ymateb i'ch cais rhyddid gwybodaeth, a hynny o fewn 20 niwrnod gwaith ar ôl ei dderbyn. Bydd un o'r canlynol yn cael ei wneud:

  • Bydd y wybodaeth y gofynnoch amdani'n cael ei chyflenwi;
  • Rhoddir gwybod i chi nad yw'r wybodaeth yn cael ei dal ac, os yw'n bosibl, pwy sy'n ei dal;
  • Rhoddir gwybod i chi y bydd eich cais yn costio mwy na'r terfyn a bennwyd yn y Rheoliadau Ffioedd ac fe'ch gwahoddir i gyflwyno cais culach;
  • Rhoddir gwybod i chi bod y wybodaeth y gofynnwyd amdani'n cael ei dal ond na fydd y cyfan neu ran ohoni'n cael ei darparu. Cewch esboniad pam, a fydd yn cyfeirio at un neu fwy o'r eithriadau o'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth;
  • Rhoddir gwybod i chi bod eich cais wedi'i wrthod ar y sail ei fod yn ailadroddus neu'n flinderus; neu
  • Rhoddir gwybod i chi bod angen mwy o amser i ystyried budd y cyhoedd mewn perthynas â'ch cais a chewch wybod pryd i ddisgwyl ymateb pellach. Ni ddylai hyn fod mwy na 40 niwrnod gwaith ar ôl derbyn eich cais.


Beth alla' i ei wneud os ydw i'n anfodlon ar yr ymateb a gaf i neu'r ffordd yr ymdriniwyd â'm cais?

Gallwch ofyn i gorff cyhoeddus gynnal adolygiad mewnol o'ch cais rhyddid gwybodaeth. Pan fyddwch yn ysgrifennu atom yn gofyn am adolygiad mewnol, byddwn yn cydnabod eich llythyr ac yn dweud wrthych faint o amser y credwn y bydd yr adolygiad yn ei gymryd. Ceisiwn gwblhau adolygiadau mewnol o fewn 20 niwrnod gwaith, ond fe allai achosion mwy cymhleth gymryd mwy o amser. Os bydd adolygiadau mewnol yn mynd y tu hwnt i 20 niwrnod gwaith, byddwn yn rhoi gwybod i chi am gynnydd.

Os ydych chi'n dal i fod yn anfodlon ar ôl adolygiad mewnol, gallwch gyflwyno cwyn i'r Comisiynydd Gwybodaeth. Mae manylion ynghylch sut i wneud hyn ar gael ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Bydd manylion llawn ynghylch sut i ofyn i awdurdod cyhoeddus gynnal adolygiad mewnol yn cael eu cynnwys yn ein hymateb cychwynnol i'ch cais rhyddid gwybodaeth. Bydd manylion ynghylch sut i gwyno ymhellach i'r Comisiynydd Gwybodaeth yn cael eu cynnwys yn ein hymateb i'ch cais am adolygiad mewnol.